Prosiect cyntaf cyfres dwy flynedd o waith yn ymwneud â'r wê. Noddir y prosiect gan NESTA* a rhoddwyd cychwyn ar y gwaith gyda chyfnod preswyl yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yn ystod Mehefin a Gorffennaf. Yn ystod chwech wythnos lluniwyd coreograffi, trac sain a set tair stafell o gylch ffilm Roman Polanski 'Repulsion' a bwriedir eu defnyddio i ymhelaethu'r cywaith y flwyddyn nesaf. Gobeithir yn y pen draw datblygu corff o waith fydd yn wyliadwy ar y wê ac yn fyw.
First project in a series featuring performance work on the web. This is a two-year NESTA* fellowship and has begun with a six-week stay at the Department of Theatre, Film and Television at Aberystwyth University in June and July. A 24-minute piece featured choreography, a soundtrack and a three-room set on Roman Polanski's film 'Repulsion' which will all re-appear in future projects. Possible outcomes are hybrid pieces accessible to 'live' and web audiences.